What is Online Exam Review ?
Mae Adolygiad Arholiad Ar-lein yn syniad newydd
Rhan 1 - esboniad
Mae’n rhaid i chi ddarganfod eich data ar lefel eitem eich hunain ar gyfer yr adran hon o’r adolygiad. Mae’r data yma i’w gael o wefan ddiogel CBAC. Wrth gymharu eich data ar lefel eitem chi gyda’r hyn a ddangosir yn yr adolygiad, mae modd i chi adnabod gwendidau a chryfderau eich ymgeiswyr o’u cymharu â’r norm.
Rhan 2 - esboniad
Mae arholwyr CBAC wedi dewis rhai cwestiynau fel enghreifftiau yr hoffen nhw i chi edrych arnynt. Sut fyddech chi wedi ateb y cwestiwn os oeddech yn fyfyriwr?
Rhan 3 - esboniad
Nawr, fe welwch enghreifftiau o atebion i’r cwestiynau. Oeddech chi’n disgwyl y fath yma o atebion? Gallwch ddefnyddio’r cynllun marcio i farcio’r cwestiynau, a chymharu hyn gyda marciau’r arholwr.
Rhan 4 - esboniad
Yn olaf, fe welwch sylwadau’r arholwyr ar gyfer y cwestiynau hyn. Fe fydd y sylwadau’n pwysleisio pethau pwysig i’w cofio, camgymeriadau cyson gan fyfyrwyr, yn ogystal ag arferion da.
Y gobaith yw y bydd hyn yn eich arwain i ystyried a oes ffyrdd amgen o ddysgu’r elfennau yma er mwyn gwella dealltwriaeth yr ymgeiswyr.
Sylwadau Cyffredinol
Mae esboniad mwy manwl ar sut i ddefnyddio’r unedau adolygiad yma ar ffurf cyflwyniad PowerPoint.
Y gobaith yw bydd penaethiaid adrannau yn defnyddio’r cyflwyniad a’r unedau adolygiad yn ystod eu cyfarfodydd adran.