Adolygiad Arholiad Ar-lein

Gwefan AAA CBAC


Gwybodaeth
ar gyfer
athrawon
Chwilio Cyflym

Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.

Dros amser fe fydd y wefan hon yn adeiladu’n gronfa ddata gynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar sesiynau arholiadau haf bob blwyddyn.

Os oes gennych unrhyw adborth ynglŷn ag unrhyw un o’r adolygiadau, yna cysylltwch ac fe wnawn anfon eich sylwadau ymlaen i’r swyddog pwnc priodol.

Adobe Acrobat DC – darllenydd pdf a argymhellir ar gyfer darllen ein unedau AAA

Mae'r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd newydd wedi'u llwytho'n barod gyda darllenydd pdf; serch hynny, nid ydynt yn cefnogi y cynnwys mwy rhyngweithiol a geir yn ein unedau AAA. Rydym yn argymell eich bod yn newid y darllenydd pdf diofyn eich porwr i Adobe Acrobat DC. Cewch lawr lwytho copi am ddim o'r meddalwedd o'r wefan https://get.adobe.com/uk/reader/ (cofiwch dad-glicio'r cynnig ychwanegol).

Gallwch lawrlwytho cyfarwyddiadau ar sut i agor adnoddau Adolygu Arholiad Ar-lein yma.

Cyflwyniad Adolygiad Arholiad Ar-lein

Cliciwch yma am ganllaw llawn ar sut i weithredu ein AAA.

Using the OER Part 1 Slide - Recognising Weaknesses
Using the OER Part 2 Slide - Looking at examples
Using the OER Part 3 Slide - Try it yourself
Using the OER Part 4 Slide - Examiner feedback